PRIODASAU / WEDDINGS

Os ydych yn cynllunio Priodas neu Bartneriaeth Sifil, mae Seremoni Ddyneiddiol yn opsiwn ar eich cyfer. Yn hytrach na ffitio’ch enwau i mewn i fylchau mewn defod safonol, bydd Seremoni Ddyneiddiol yn achlysur unigryw a phersonol i chi.

Rwyf wedi derbyn hyfforddiant trylwyr gan Ddyneiddwyr Cymru (rhan o Humanists UK) ac yn rhan o rwydwaith proffesiynol o weinyddwyr defodau priodasau Dyneiddiol sydd ar gael i lunio seremoni fydd yn adlewyrchu’ch gobeithion a’ch safonau o ran iaith ac athroniaeth.

Hoffwn eich sicrhau y bydd eich seremoni mor ffurfiol neu anffurfiol ag y mynnwch. Byddaf yn hapus i gydweithio gyda chynllunio’r seremoni o’r cychwyn cyntaf er mwyn eich cynorthwyo i wneud yr achlysur yn un bythgofiadwy i chi, eich teulu a’ch cyfeillion.

Gallwch edrych ymlaen yn eiddgar at gael seremoni ddi-grefydd. Does dim rhaid i’r ddefod fod yn sych ac amhersonol; gall fod yn bopeth rydych yn ei dymuno i fod…a mwy!

****************************************************************

If you are planning a Wedding or Civil Partnership, a Humanist Ceremony is an option available to you. Rather than slotting your names into the appropriate gaps in a standard service, a Humanist Ceremony is unique and personal to you.

I have received thorough training from Wales Humanists (part of Humanists UK) and I am part of a national network of people trained to conduct Humanist Wedding Ceremonies to reflect your aspirations and standards with regard to language and philosophy.

You can be assured that your ceremony can be as formal or as informal as you would like. I shall be happy to co-operate with planning the ceremony from the very beginning in order to help you make the day an unforgettable occasion for you, your family and your friends.

You can get excited about a non-religious ceremony. It doesn’t have to be dry and impersonal, it can be everything you want it to be …and more.