Seremonïau Dyneiddiol / Humanist Ceremonies

Mae Androw Bennett wedi bod yn cynnal seremonïau dyneiddiol ers 2009.
Androw Bennett has been conducting humanist ceremonies since 2009.

Yn Gymro Cymraeg ers fy magwraeth yn Sir Caerfyrddin, rwy’n barod i deithio i unrhyw le i gynnal seremonïau Cymraeg, Saesneg neu rhai dwyieithog.

A Welsh-speaking Welshman from my upbringing in Carmarthenshire, I am prepared to travel anywhere to conduct ceremonies in Welsh, English or bilingual.

Roeddwn yn ddyneiddiwr am flynyddoedd lawer heb sylweddoli hynny ac, yn sgîl gwaith dros ysgutor rhywun yn 2005 a threfnu angladd ddyneiddiol iddo, ymunais gyda’r Gymdeithas Dyneiddiaeth Brydeinig. O sylweddoli pa mor agos at fy nghredoau oedd seremonïau dyneiddiol, penderfynais anelu at dderbyn achrediad i gynnal y fath seremonïau. Ar f’ymddeoliad yn 2009 o waith cyfreithiol yn y sector gwirfoddol, yn dilyn hyfforddiant trylwyr gan y Gymdeithas, derbyniais achrediad cyflawn i gynnal seremonïau angladdol. Rwy’n hynod falch o ddweud fy mod wedi gallu cynnal nifer sylweddol o angladdau ar gyfer teuluoedd sydd ddim yn arddel unrhyw grefydd ond sydd am gynnal defodau ystyrlon yn dilyn marwolaeth perthynas agos.

I was a humanist for many years without realising it and, following my arranging a humanist funeral when I acted for the executor of an estate in 2005 and arranged a humanist funeral for the deceased, I joined the British Humanist Association. On realising how close to my beliefs were humanist ceremonies, I decided to aim for accreditation to conduct such ceremonies. On my retirement in 2009 from legal work in the voluntary sector, following intensive training by the Association, I received full accreditation to conduct funeral ceremonies. I am pleased to say that I have conducted a substantial number of funerals for families who do not adhere to any religion but who wish to hold meaningful rituals upon the death of a close relative.